Hosea 12

1Mae Effraim
12:1 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
yn rhedeg ar ôl cysgodion –
mae fel ffŵl sy'n dyheu am wynt poeth y dwyrain!
Dim ond twyllo diddiwedd, a dinistr yn ei ddilyn.
Mae'n gwneud cytundeb gydag Asyria,
ac wedyn yn anfon olew olewydd yn dâl i'r Aifft!
2Mae'r Arglwydd am ddwyn achos yn erbyn Jwda:
bydd yn cosbi pobl Jacob am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn;
talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud.
3Daliodd ei frawd yn ôl yn y groth, b
a hyd yn oed ymladd gyda Duw fel oedolyn! c
4Reslo gydag angel heb golli –
crïo a pledio arno i'w fendithio.
Dyma Duw yn ei gyfarfod yn Bethel
a siarad gydag e yno d
5Ie, yr Arglwydd! Y Duw holl-bwerus!
Yr Arglwydd ydy ei enw am byth!
6Rhaid i ti droi'n ôl at Dduw! –
byw bywyd o gariad a chyfiawnder,
a disgwyl yn ffyddiog am dy Dduw.
7Fel masnachwyr gyda chlorian sy'n twyllo,
maen nhw wrth eu boddau'n manteisio.
8Ac mae Effraim yn brolio:
“Dw i'n gyfoethog! Dw i wedi gwneud arian mawr!
A does neb yn gallu gweld y twyll,
neb yn gweld fy mod yn euog o unrhyw bechod.”
9“Fi ydy'r Arglwydd dy Dduw
ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft.
Dw i'n mynd i wneud i ti fyw mewn pebyll eto,
fel pan wnes i dy gyfarfod yn yr anialwch. e
10Dw i wedi siarad drwy'r proffwydi –
mewn gweledigaethau a negeseuon.”
11Ydy Gilead yn addoli eilunod?
Ydy, a does dim dyfodol i'w phobl!
Ydyn nhw'n aberthu teirw yn Gilgal?
Ydynt, ond bydd eu hallorau fel pentwr o gerrig
mewn cae wedi ei aredig!
12Roedd rhaid i Jacob
12:12 Jacob Cafodd ei enw ei newid i Israel (gw. Genesis 32:28).
ddianc i wlad Aram
12:12 Aram Gogledd Syria.
h
gweithiodd Israel fel gwas i gael gwraig,
a cadw defaid i dalu amdani.
13Yna defnyddiodd yr Arglwydd broffwyd
i arwain Israel allan o'r Aifft, i
ac i'w cadw nhw'n fyw yn yr anialwch.
14Ond mae Effraim wedi ei bryfocio i ddigio.
Bydd ei Feistr yn ei ddal yn gyfrifol am y tywallt gwaed,
ac yn gwneud iddo dalu am fod mor ddirmygus.
Copyright information for CYM